
Amdanom Ni
Gair gan y Cadeirydd
Non Davies
Croeso cynnes i wefan yr Ymddiriedolaeth.
Mae Castell Aberteifi yn leoliad ag iddo arwyddocad hanesyddol a diwylliannol sylweddol. Ein bwriad yw i gadw ac i ddiogelu y Castell, Castle Green House, a’r safle, ar gyfer cenedlaethau i ddod, gan sicrhau bod ei dreftadaeth yn parhau i ysbrydoli ac addysgu ac ei fod yn adlewyrchu yr ysbryd cymunedol egnïol sydd yn nhref Aberteifi i bawb sy’n ymweld. Mae Castell Aberteifi nid yn unig yn symbol o’n gorffennol, ond mae hefyd yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, mentrau lleol ac astudio.
Wrth i’n datblygiad parhaus o’r hyn mae’r Castell yn ei gynnig barhau, rydym yn ymrwymo i greu gofod croesawgar, un sy’n gweld hanes, treftadaeth a chymuned yn dod ynghyd. Rydym yn ddiolchgar o’r gefnogaeth gan bawb o’r ardal, gan ein hymwelwyr, ein partneriaid a’n gwirfoddolwyr ac yn anad dim, y cyrff a’r galluogwyr ariannol. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai’r gwaith hyn yn bosib. Mae eich diddordeb a’ch cyfraniad yn gwbwl hanfodol i lwyddiant ein hamcanion. Rwy’n eich gwahodd i ymchwilio’r Castell, dysgu am ei hanes cyfareddol, a dod yn rhan o stori gyfredol y lleoliad arbennig hwn.

Non Davies
Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan

Ein Nod
Cadw a diogelu adeiladwaith Castell Aberteifi, ynghyd â’r haenau olynol o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol maent yn eu cwmpasu, er budd pobl Cymru a thu hwnt.
I hyrwyddo a dehongli’r etifeddiaeth hanesyddol a diwylliannol yma, yn arbennig yng nghyd-destun yr iaith a diwylliant Cymraeg, yr Eisteddfod a’r traddodiadau barddol a cherddorol.
I gyrraedd yr amcanion yma mewn modd sympathetig a chynaliadwy heb ddibyniaeth ar gefnogaeth grantiau allanol.
Y Weledigaeth
I fod yn fenter fywiog, hunangynhaliol a llewyrchus erbyn 2025, sy’n cael ei gweld fel dylanwad cryf ac yn amddiffynnwr o dreftadaeth Cymru, yr iaith Gymraeg, diwylliant a’r Eisteddfod, yn un sy’n atyniad arwyddocaol yn nhermau ymwelwyr yng Ngorllewin Cymru ac Aberteifi; sy’n gyrchfan o ddewis ar gyfer ymweld, aros, mynychu digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol, ac sy’n llwyddiannus yn hyrwyddo pwysigrwydd yr iaith, hanes a diwylliant Cymraeg i bawb.


Ein gwerthoedd
Byddwn yn dangos gonestrwydd a chywirdeb ym mhob dim rydym yn ei wneud.
Byddwn yn gwerthfawrogi a pharchu’r iaith Gymraeg a hanes a diwylliant Cymru.
Byddwn yn gwerthfawrogi ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr.
Byddwn yn gweithio mewn cydweithrediad, ac yn mewn modd agored, gyda hapddalwyr a phartneriaid eraill.
Byddwn yn gefnogol o dref Aberteifi a’r cyffiniau.
Hanes
I Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, ei gwirfoddolwyr triw, y bobl leol a’r gefnogaeth oddi wrth arianwyr, mae’r diolch am adfywiad ac atgyweiriad cyfoes Castell Aberteifi. Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 1999 gan bedwar o wirfoddolwyr ffyddlon, y diweddar Jann Tucker, y diweddar Gareth Davies, y diweddar Trevor Griffiths a Richard Thomas.
Eu bwriad oedd achub y ddau fwthyn 300-mlwydd oed ar Stryd Werdd yng nghanol Aberteifi, wrth ymyl mynedfa’r Castell hanesyddol. Wedi i’r bythynnod gael eu hadnewyddu, wnaeth yr Ymddiriedolaeth, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, droi eu sylw tuag at adfer y Castell, safle ehangach, dwy erw, a’i ddychwelyd i’w gyn-ogoniant.
Hoffai’r Ymddiriedolaeth ddiolch i’r cyrff, sefydliadau a chronfeydd canlynol am eu cefnogaeth amhrisiadwy.
Gronfa Ganolog Treftadaeth y Loteri (HLF) Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF) drwy law Llywodraeth Cymru, a throsglwyddiaeth Asedau Cymunedol, Cadw, Y Loteri Fawr, Cymdeithasau Ymddiriedolaeth Cadwraeth y Deyrnas Unedig, Cronfa Treftadaeth Bensaernïol, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Aberteifi, Ymddiriedolaeth y Tywysog i Adfywio, a Chronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig drwy Gyngor Sir Ceredigion a Chronfa Cynnal y Cardi.