English
ymddiriedolaethcadwgan

Castell Aberteifi a’r Hanes

Y Prif Brosiect – Castell Aberteifi

Tra bod gan yr Ymddiriedolaeth y gallu a’r hawl i edrych ar adeiladau hanesyddol eraill yn Aberteifi, y Castell ei hun yw’r prif ffocws ar hyn o bryd. Agorodd y giatiau i’r cyhoedd yn 2015 ar ôl blynyddoedd o ymdrech gan bobol ymroddedig Aberteifi.

Gorffennwyd adeiladu Castell Aberteifi, fel Castell cerrig gan yr Arglwydd Rhys ym 1176 ac mae ei atgyweiriad yn stori hynod, o ysbryd cymunedol ac ymroddiad gwirfoddolwyr. Yn safle o bwysigrwydd cenedlaethol, roedd y Castell ei hun, Castle Green House, y plasty Sioraidd, a’r gerddi wedi dirywio a dadfeilio yn sylweddol erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif.

Gan gydnabod yr angen i ddiogelu’r lleoliad eiconig, daeth preswylwyr lleol, haneswyr a selogion eraill ynghyd i greu mudiad llawr gwlad i’w achub. Y weledigaeth oedd nid yn unig i’w adfer a’i atgyweirio ond hefyd i’w drawsnewid i fod yn ganolfan diwylliannol a chymunedol egnïol.

Dechreuodd y daith gyda grŵp bychan o wirfoddolwyr oedd yn benderfynol o ddenu sylw i’r achos a chyflwr y Castell. Trefnwyd digwyddiadau, cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau i godi arian er mwyn denu cefnogaeth. Roedd eu hangerdd yn atseinio gydag eraill a chyn hir roedden nhw wedi llwyddo i ennyn sylw’r awdurdodau lleol, mudiadau treftadaeth a’r cyhoedd.

Tros amser, mi wnaeth y grŵp ffurfioli’r sefyllfa a sefydlu Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, yr elusen fyddai’n gyfrifol am oruchwylio’r adnewyddiad. Mi ddaeth yr Ymddiriedolaeth yn begwn o obaith, gan ddod â phobol o bob cwr a chefndir ynghyd, a phawb yn rhannu un nod cyffredin: i atgyweirio Castell Aberteifi i bawb gael ei fwynhau.

Roedd yr atgyweiriad yn llafur cariad, yn cynnwys oriau maith o waith caled gan wirfoddolwyr. Cyd-weithiodd penseiri, archeolegwyr, crefftwyr a masnachwyr gydag aelodau o’r gymuned, a wnaeth gyfrannu eu sgiliau, eu hamser a’u brwdfrydedd- a’r cyfan am ddim.

Mi wnaeth ysgolion, artistiaid a busnesau lleol hefyd chwarae rhan, gan wreiddio’r prosiect yn y gymuned. Cafodd yr ymdrech ei chefnogi gan arian arwyddocaol o Gronfa Treftadaeth y Loteri a nifer o ffynonellau ariannol eraill, ond wrth galon y project, yn ei yrru tuag at ei lwyddiant, oedd ymroddiad y gwirfoddolwyr. A’r gwirfoddolwyr hynny’n dilyn arweiniad y Bwrdd o Ymddiriedolwyr ym mhob cyfnod o’r datblygiad,

Mae Castell Aberteifi heddiw yn symbol o’r hyn y gall criw ymroddedig o bobol ei gyflawni. Mae wedi cael ei drawsnewid i leoliad llewyrchus ar gyfer digwyddiadau, addysg a thwristiaeth, tra hefyd yn gwarchod ei arwyddocâd hanesyddol. Mae stori’r Castell nid yn unig yn stori am ailosod gwaith carreg ac adfywio adeiladau, ond mae’n stori am bŵer cydweithrediad cymunedol a’r pwysigrwydd oesol i ddiogelu treftadaeth ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Pwy sy’ berchen ar Gastell Aberteifi, y bythynnod, y tai ac adeiladau eraill ar y safle?

Cyngor Sir Ceredigion sy’n berchen ar safle’r Castell, y Castell ei hun, Castle Green House a’r adeiladau eraill o fewn y safle, Tŷ Mari, Y Stablau, Y Tŷ-Coets, Tŷ’r Garddwr, Tŷ Castell, y ddau fwthyn a’r Tŷ Bragu.

Mae’r safle ar brydles i Ymddiriedolaeth Cadwgan am gyfnod cychwynnol o 125 mlynedd.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth gangen fasnachol, Cardigan Castle Enterprises sy’n rhedeg y fenter Gwely a Brecwast a Hunanarlwyo, y Priodasau, Siop y Castell a’r Ganolfan Gynadledda, a’r ‘stafelloedd cyfarfod.

Mae’r elw a wneir yn cael ei ddarparu fel rhodd i’r elusen yn flynyddol. Mae hyn yn caniatáu i’r Ymddiriedolaeth barhau i adnewyddu, gynnal a chadw a chefnogi costau rhedeg safle’r Castell.

Proisectau’r Dyfodol – Datblygu’r Safle

Mae’r Castell wedi cael ei adnewyddu’n raddol mewn modd sy’n cydymffurfio â’r tywyslinellau a chyfyngiadau manwl sydd yno er mwyn diogelu cofadail hynafol o’r math. Mae elfennau o’r safle’n rhestredig ac mae parchu hynny yn bwysig. Mae hyn yn cyfyngu natur y gwaith sy’n bosib ei wneud mewn rhai ffyrdd, ond mae’n diogelu’r elfennau hanesyddol yn bensaernïol ac yn parchu treftadaeth amhrisiadwy’r safle.

Rydym yn ystyried datblygiad pellach ar hyn o bryd i ran isa’r safle, sef lleoliad y stablau a lle chwarae’r plant. Y bwriad yw creu ‘ardaloedd o ddiddordeb’ bydd yn denu ymwelwyr i lawr heibio Adain Ddwyreiniol Castle Green House i’w gweld a’u mwynhau. Nid yw’r ardal hon wedi’u datblygu i’w llawn botensial. Byddai’r atyniadau hyn yn unigryw i’r safle ac yn adlewyrchu agweddau unigryw a phenodol o fywyd Aberteifi a Cheredigion. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill – y cam nesaf bydd sicrhau nawdd i ganiatáu’r datblygiad.

Dewch at eich gilydd

Ffocws presennol yr Ymddiriedolaeth yw atgyweirio, datblygu a lleoli Castell Aberteifi fel safle hynafol sy’n cynnig atyniad byw er mwyn i’r cyhoedd fwynhau hanes a diwylliant y dref a’r ardal.

Os ydych chi’n teimlo hoffech chi gyfrannu ac ymwneud â’r gwaith yn y Castell, beth am ddod yn ‘Ffrind i’r Castell’ neu’n aelod o’r Ymddiriedolaeth? Ymhen amser, efallai allech chi ystyried ymuno â’r Bwrdd fel Ymddiriedolwyr.